Website URL : http://www.ceredigion2020.org.uk/index.cfm?articleid=8895


    Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc

    Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc

    Sefydlwyd Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Ceredigion fel partneriaeth statudol ar ddiwedd 2006, gan ymateb i'r ffaith bod y gofynion cyfreithiol yn Neddf Plant 2004 yn dod i rym. Mae'n cynnwys yr holl asiantaethau allweddol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc yng Ngheredigion. Ei brif gyfrifoldeb yw gwella'r canlyniadau i blant a phobl ifanc (0-25 oed) ar draws Ceredigion, a darparu Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2008-2011. Mae modd gweld Cylch Gorchwyl manwl ar gyfer y bartneriaeth ar y wefan hon.

    Tua diwedd 2007, aeth y bartneriaeth ati i gynnal dadansoddiad cynhwysfawr o'r gwasanaethau a ddarparir a'r angen am wasanaethau, a oedd yn cynnwys nifer o deuluoedd, plant, pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau ar draws y sir. Yn ogystal, llwyddwyd i wneud defnydd da o'r wybodaeth ystadegol sydd eisoes ar gael. Arweiniodd hyn at ddogfen Asesiad Anghenion, a oedd yn nodi'r bylchau o ran ffynonellau er mwyn bodloni anghenion plant a phobl ifanc yng Ngheredigion.

    Yr Asesiad Anghenion oedd sylfaen y gwaith er mwyn llunio'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc statudol newydd. Yn hytrach na chael llawer o gynlluniau ar gyfer plant a phobl ifanc 0-25 oed, mae gennym un Cynllun Plant a Phobl Ifanc strategol a chyffredinol erbyn hyn.

    Bellach, mae modd gweld y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ar y wefan hon. Fe'i paratowyd gan grwpiau aml-asiantaeth niferus a chynhaliwyd ymgynghoriad yn ei gylch rhwng mis Mai a mis Awst 2008. Cafodd y Bartneriaeth dros 100 o ymatebion, ac aeth ati i ddiwygio'r cynllun yn unol â chanfyddiadau'r ymgynghoriad. Cymeradwywyd y cynllun terfynol gan Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Ceredigion ym mis Medi 2008. Fe'i mabwysiadwyd gan y Cyngor Sir ym mis Hydref ac fe'i lansiwyd ym mis Tachwedd.

     
    Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2010.
    Os bydd gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi ebostio gwybodaeth@ceredigion2020.org.uk