Website URL : http://www.ceredigion2020.org.uk/index.cfm?articleid=6099


    Cynllun Datblygu Lleol

    Cynllun Datblygu Lleol Ceredigion

    Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio cynllun datblygu. Pwrpas y cynllun datblygu yw arwain y modd y bydd datblygu'n digwydd yn y Sir. Mae hyn yn cynnwys nodi tir at ddibenion penodol (e.e. unedau busnes neu dai), gwarchod tir rhag cael ei ddatblygu (e.e. gwarchod meysydd chwarae neu safleoedd oherwydd safon uchel y dirwedd) ynghyd â chyfarwyddyd ynghylch y modd y dylai datblygu ddigwydd (e.e. sut y dylai edrych). Er bod a wnelo'r cynlluniau hyn â chyfnod o ryw 15 mlynedd, er mwyn sicrhau y byddant yn ymdrin â materion a chyfarwyddyd cyfredol bydd angen eu hadolygu bob 4 mlynedd.

    Pan ddaw ceisiadau cynllunio i law bydd yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) yn penderfynu a ddylid eu cymeradwyo ai peidio gan ddibynnu a yw'r cais yn unol â'r hyn sydd yn y cynllun datblygu. Ar hyn o bryd mae'r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) yn defnyddio Cynllun Fframwaith Dyfed a Chynllun Datblygu Unedol Ceredigion Fersiwn y Diwygiadau Arfaethedig 2006 (CDU) wrth benderfynu yngl?n â cheisiadau cynllunio.

    http://www.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=1486

    Fodd bynnag, dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 mae gofyn i bob ACLl lunio math newydd o gynllun datblygu a elwir yn Gynllun Datblygu Lleol (CDLl). Unwaith y bydd y CDLl wedi ei lunio a'i fabwysiadu bydd yn disodli Cynllun Fframwaith Dyfed a'r Cynllun Datblygu Unedol. Mae'r ACLl eisoes wedi cytuno gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru y dylid mabwysiadu'r CDLl erbyn Hydref 2011. Ceir manylion llawn yngl?n â phryd y bydd pob cam o'r gwaith o lunio'r CDLl yn digwydd, gan gynnwys sut y gall y cyhoedd ac amrywiol gyrff chwarae eu rhan, yn y Cytundeb Cyflenwi (Mehefin 2007).

    http://www.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=4761

    Caiff gwefan y CDLl ei diweddaru o dro i dro i adlewyrchu'r gwahanol gamau a'r gwaith sy'n cael ei wneud o ran llunio'r cynllun. I gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt gweler gwefan y CDLl.

     
    Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2010.
    Os bydd gennych unrhyw ymholiadau mae croeso i chi ebostio gwybodaeth@ceredigion2020.org.uk