|
Plant a Phobl IfancMae Plant a Phobl Ifanc yn hynod o bwysig i bobl Ceredigion, ac i'r rhai sy'n trefnu ac sy'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer. Er mwyn cynllunio gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc mewn ffordd effeithlon, mae'r asiantaethau yng Ngheredigion yn dod ynghyd mewn nifer o bartneriaethau statudol. Y brif bartneriaeth y mae ganddi gyfrifoldeb cyffredinol yw Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc Ceredigion sy'n gweithio yn unol â'r Datganiad o Weledigaeth isod y cytunwyd arno Byddwn yn cydweithio i wella'r cyfleoedd i bob plentyn, pob person ifanc a phob teulu i fwynhau bywyd, i ddysgu, i ffynnu ac i dyfu i fod yn ddinasyddion iach, hyderus a galluog. Byddwn yn cyflawni hyn trwy:
Ceir dwy bartneriaeth bwysig arall sy'n eistedd dan y Bartneriaeth Fframwaith, ac y maent yn gyfrifol am 2 gr?p oedran:
Diben y wefan hon yw darparu gwybodaeth fanwl i'r rhai y mae ganddynt ddiddordeb yn swyddogaeth a chynlluniau'r dair bartneriaeth, yn ogystal â darparu gwybodaeth ynghylch cynlluniau a strategaethau pwysig eraill sy'n ceisio darparu gwasanaethau wedi'u cydlynu i Blant a Phobl Ifanc. Nod cynllun Cymorth yw darparu gwasanaethau ataliol wedi'u targedu ac mae'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth yn gosod y safonau ar gyfer nifer o wasanaethau a ddarparir i Blant a Phobl Ifanc. Byddwch yn gweld dogfennau defnyddiol eraill hefyd sy'n cofnodi gwaith y partneriaethau, sy'n cynnwys rhai o'r asesiadau, strategaethau y cytunwyd arnynt a chofnodion cyfarfodydd. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'r tîm cefnogi partneriaethau, sy'n cynnwys y swyddogion canlynol;
|
Pethau a Lawrlwythwyd:
Dolenni Cysylltiol Defnyddiol:
|
||||||||||||||||