|
Diogelwch CymunedolPartneriaeth Diogelwch CymunedolPartneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion Ym 1998, gosododd y Ddeddf Trosedd ac Anrhefn ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol a'r Heddlu i greu partneriaethau er mwyn lleihau trosedd ac anrhefn yn eu cymunedau. Golygai Deddf Diwygio'r Heddlu, a gyflwynwyd yn 2002, y gallai rhagor o gyrff ddod yn aelodau o'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol. Ymhlith y rhain yr oedd Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau'r Heddlu ac Awdurdodau Gwasanaethau Tân ac Achub. Sefydlwyd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Ceredigion ym 1999 ac mae'n un o 22 o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol drwy Gymru a 354 o Bartneriaethau Gostwng Troseddau ac Anrhefn yn Lloegr. Mae aelodau'r Bartneriaeth ar hyn o bryd yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Cyngor Sir, yr Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu, y Bwrdd Iechyd Lleol, y Gwasanaethau Tân ac Achub, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Tîm Troseddwyr Ifanc Ceredigion a'r Tîm Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau. Mae'n gyfrifoldeb statudol ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol i gynnal adolygiadau blynyddol o Drosedd ac Anrhefn. Diben yr Adolygiad yw sicrhau bod pobl yn dod yn ymwybodol o natur Trosedd ac Anrhefn, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chamddefnyddio Cyffuriau yn y Sir, nodi dulliau o ddatblygu a gweithredu camau effeithiol er mwyn lleihau'r problemau hyn a sicrhau y caiff adnoddau eu defnyddio yn y llefydd cywir er mwyn mynd i'r afael â'r problemau hyn, yn ogystal â chreu sail ar gyfer y Strategaeth Diogelwch Cymunedol. Caiff gweithgareddau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol eu cydlynu ar lefel Sirol gan y Cydlynydd Diogelwch Cymunedol, Alan Garrod, ac mae ei fanylion cyswllt isod; Cyfeiriad: Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA
|
|