|
Amgylchedd o Ansawdd UchelMae'r Strategaeth Gymunedol yn cydnabod bod ein amgylchedd lleol yn bwysig i'n ansawdd bywyd<!-- table.MsoNormalTable {mso-style-name:"Table Normal"; mso-tstyle-rowband-size:0; mso-tstyle-colband-size:0; mso-style-noshow:yes; mso-style-parent:""; mso-padding-alt:0cm 5.4pt 0cm 5.4pt; mso-para-margin:0cm; mso-para-margin-bottom:.0001pt; mso-pagination:widow-orphan; font-size:10.0pt; font-family:"Times New Roman"; mso-ansi-language:#0400; mso-fareast-language:#0400; mso-bidi-language:#0400;}Partneriaeth Amgylchedd Ceredigion Partneriaethau Amgylchedd Ceredigion. Yr aelodau craidd yw o Cyngor Sir Ceredigion(yn gyfredol yn darparu'r ysgrifenyddiaeth a'r gadair www.ceredigion.gov.uk o Rhwydwaith ARENA www.arenanetwork.org o Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion www.cavo.org.uk o Cyngor Cefn Gwlad Cymru www.ccw.gov.uk o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymruwww.environment-agency.wales.gov.uk o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru www.welshwildlife.org o Ymlaen Ceredigion www.ymlaenceredigion.org.uk Mae amgylchedd unigryw Ceredigion yn meddu ar ardaloedd gadwraeth o bwysigrwydd gwladol a rhyngwladol, ac maent yn hanfodol ar gyfer denu ymwelwyr a buddsoddwyr. Mae rheolaeth effeithiol o'r amgylchedd a defnydd pwyllog o adnoddau naturiol yn hanfodol i gyflawni datblygiad cynaliwadwy, ac yn gyfannol i nodau ac amcanion Ceredigion 2020, Strategaeth Gymunedol y sir. Gweledigaeth y Strategaeth Gymunedol yw: Bydd Ceredigion yn 2020 yn hunanhyderol, iach, gofalgar, cymuned dwyieithog, yn cael ei chynnal gan economi leol cryf, yn defnyddio y sgiliau o'i phobl, a gwneud defnydd call o'r adnoddau o'i amgylchedd ansawdd uchel, yn darparu cyfleoedd i bawb i gyrraedd eu potensial llawn. Mae'r Strategaeth Gymunedol yn cydnabod bod ein amgylchedd lleol yn bwysig i'n ansawdd bywyd. "Mae gan Ceredigion amgylchedd gyfoethog ac amrywiol sy'n cael ei warchod a'i mwyhau ac yn cefnogi datblygiad y Sir yn gymdeithasol ac yn economaidd." "Mae pobl Ceredigion yn hawlio amgylchedd o safon uchel ac yn magu arfer cynaliadwy yn eu ffordd of fyw ac yn Natblygiad y Sir." "Bydd Ceredigion yn parhau i fod yn dirwedd byw lle mae cadwraeth a datblygu yn cael eu integreiddio'n llawn" Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â: http://www.ceredigion2020.org.uk/ [neu ddolen mewnol) Ceredigion 2020 Blaenoriaethau Allweddol Cyffredin Amgylcheddol Fel rhan o Strategaeth Cymunedol Ceredigion, Ceredigion 2020, ac mewn ymgynghoriad â ystod eang o sefydliadau wedi'u lleoli neu yn gweithio yn Ceredigion, mae'r PAC wedi nodi'r blaenoriaethau amgylcheddol canlynol: Ceredigion 2020 Blaenoriaethau Allweddol Cyffredin Amgylcheddol · Gwella effeithlonrwydd ynni a chynyddu defnydd ynni cynaliadwy yng Ngheredigion. · Gwarchod a mwyhau yr amgylchedd naturiol a'r amgylchedd adeiledig Ceredigion · Lleihau effaith llygredd ar amgylchedd Ceredigion · Cefnogi'r Sectorau Amgylcheddol a Chymdeithasol Cynaliadwy a Datblygu Economaidd yn Coedwigaeth, Pysgodfeydd ac Amaeth Ceredigion. · Sicrhau bod datblygu amgylchedd adeiledig yn uchel ei Safonau Amgylcheddol · Annog busnesau yng Ngheredition i fod yn fwy gynaliadwy amgylcheddol yn eu gweithrediadau. · Annog pobl i werthfawrogi amgylchedd Ceredigion ynghyd â'r amgylchedd byd-eang. · Diogelu'r rheoloaeth cynaliadwy o wastraff yng Ngheredigion · Diogelu bod tranfidiaeth yng Ngheredigion yn cael ei ddatblygu mewn ffordd cynaliadwy. · Darparu cyfleodd i fwynhau cefn gwlad Ceredigion · Lleihau'r trawiad o droseddau amgylcheddol yng Ngheredigion · Cynllunio, paratoi, ac addasu ar gyfer y trawiad tebygol o Newid Hinsawdd (Yn cael ei ddatblygu). Y FfCA ( Fframwaith Cysylltiadau Amgylcheddol) Dyma'r tro cyntaf mae sefydliadau amgylcheddol wedi dod at ei gilydd i gydsynio ar fframwaith o flaenoriaethau ac aneliadau i'r ffordd i warchod a mwyhau amgylchedd Ceredigion. Mae'r fframwaith wedi'i ddatblygu o amgylch y Blaenoriaethau Allweddol Cyffredin ar gyfer Amgylchedd o Ansawdd Uchel a amlinellir uchod ac yng Ngheredigion 2020. Mae'r aneliadau a'r camau wedi'u seilio yn y gwybodaeth a dyheadau sefydliadau a gr?piau sydd yn gweithio i wella amgylchedd Ceredigion Trwy Ceredigion 2020, bydd y fframwaith yn cysylltu aneliadau amgylchedd i themau eraill o'r Strategaeth Gymunedol, Cymunedau Cryfach, Llwyddiant Economaidd, Iechyd Gofal Cymdeithasol a Lles a Dysgu Gydol Oes. Mae'r fframwaith hefyd yn gwneud cysylltiadau rhwng heriadau Ceredigion, deddfwriaethau amgylcheddol a polisiau llywodraethol ar lefel Ewropeaidd, y DU a Chymru. Bydd hyn yn cynorthwyo sefydliadau a gr?piau i ddangos y ffordd mae'n nhw yn helpu i daclo materion ehangach fel Newid Hinsawdd, a bwydo i fewn i'r Strategaeth Amgylchedd i Gymru. Beth mae'r FfCA yn gwneud? Mae'n darparu fframwaith i gynorthwyo sefydliadau a gr?piau i weithio gyda'i gilydd i ddiwygio amgylchedd Ceredigion a gwneud y gorau o adnoddau ein sefydliadau. Mae'n cynnwys: Yr hyn y gellid ei wneud dros bymtheg mlynedd gan bartneriaid o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cydweithio ac yn cyfrannu gwasanaethau a phrosiectau o 11o Flaenoriaethau Allweddol Cyffredin i gydlynu ein meddyliau a chanolbwyntio adnoddau i sicrhau'r effaith fwyaf posib. o Camau yn y byrdymor, y tymor canol a'r hirdymor y bydd y cyrff sy'n darparu gwasanaethau amgylcheddol yng Ngheredigion yn eu rhannu. o Mae'r FfCA yn amlygu'r hyn y mae angen ei wneud i wella'r amgylchedd. Nid yn unig y mae'n sôn am yr hyn sydd eisoes yn digwydd, mae hefyd yn cynnwys nodau y bydd angen ymdrechion newydd neu ychwanegol arnynt. Nid yw'r fframwaith yn gyflawn. Mae bylchau y mae angen eu llanw â syniadau newydd ac mae angen creu cysylltiadau gyda chyrff a grwpiau eraill. Bydd y fframwaith yn dal i dyfu a datblygu wrth i'r sialensiau sy'n wynebu amgylchedd Ceredigion yn newid. Mae aelodau craidd Partneriaeth Amgylchedd Ceredigion yn hyrwyddo nifer o gamau. Golyga hyn y byddant yn cynnig ffocws i ymdrechion y bartneriaeth i gwblhau cam. Mae gwaith yr aelodau craidd yn rhan allweddol o'r gwasanaethau amgylcheddol a ddarperir yng Ngheredigion ond ni fyddant yn gallu cyflawni pob un o'r camau a pennau eu hunain. o Sut allwch chi helpu? o Arwyddwch Siarter Amgylchedd Ceredigion. o Hyrwyddwch Addewid Amgylchedd Ceredigion o Hyrwyddwch Addewid Amgylchedd Ceredigion ymysg eich aelodau, clientiaid a'r cyhoedd cyffredin o Nodwch pa weithredau a amlinellwyd yn y FfCA a allai gyfrannu neu arwain o Hysbyswch Partneriaeth Amgylchedd Ceredigion o'r mentrau amgylchedd rydych yn ymgymryd ynddynt neu'n datblygu. Manylion cyswllt:
Cydlynydd Datblygiad Cynaliadwy/ Sustainable Development Co-ordinator, Ymlaen Ceredigion, 15/17 Ffordd Portland Road, Aberystwyth SY23 2NL Ffôn/Tel: 01970 633395 Ffacs/Fax: 01970 633392 Symudol/Mobile: 07976 134184
|
Pethau a Lawrlwythwyd:
|