|
Cymunedau Cryfach - Cynnal y CardiMae Partneriaeth Cymunedau Cryfach yn un o'r Grwpiau Thematig sy'n rhan o Strategaeth 2020 Ceredigion. Mae'n sianel ar gyfer gweithgaredd adfywio sy'n gysylltiedig â'r gymuned leol a Strategaeth Gymunedol 2020 Ceredigion. Gofynnwyd i Bartneriaeth Cymunedau Cryfach gan Bartneriaeth Adfywio Economaidd Ceredigion (CERP) ddatblygu cynnig i Gr?p Gweithredu Lleol Echel 4 y Cynllun Datblygu Gwledig er mwyn cyflwyno gweithgareddau a phrosiectau arloesol i adfywio'r gymuned o'r gwaelod i fyny fel rhan o'r ddarpariaeth. Cynllun Datblygu Gwledig 2007 – 20013
Gwybodaeth gefndirol ynghylch Echel 4 - y Gr?p Gweithredu Lleol Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig yn darparu fframwaith ar gyfer sicrhau datblygiad cynaliadwy ardaloedd gwledig trwy'r pedwar prif amcan a elwir yn Echelau: Echel 1: Cynyddu'r elfen gystadleuol yn y sector amaethyddol trwy hybu ailstrwythuro. Echel 2: Gwella'r amgylchedd a chefn gwlad trwy hybu rheoli tir. Echel 3: Gwella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig a hybu arallgyfeirio gweithgareddau economaidd. Echel 4: Hybu defnyddio partneriaethau lleol yn y cymunedau er mwyn i hyn fod yn sail ar gyfer y tair echel flaenorol trwy'r Gr?p Gweithredu Lleol. Rhaid i'r gweithgaredd gynnwys rhyw fudd economaidd a lles i'r economi lleol. Y Corff Arweiniol yng Ngheredigion ar gyfer Echel 3 & 4 fydd Partneriaeth Adfywio Economaidd Ceredigion a bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithredu fel Cydlynydd Ariannol. Caiff cynigion ar gyfer Echel 3 & 4 eu cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn y 30ain o Fawrth, gyda chynllun busnes i'w gyflwyno ym Medi a'r prosiectau / gweithgareddau i ddechrau yn Ionawr 2008. Bydd Partneriaeth Cymunedau Cryfach yn gweithredu fel Gr?p Gweithredu Lleol ar gyfer Echel 4. Bydd angen ymateb i hyn o'r gwaelod i fyny, sy'n golygu y bydd prosiectau a fydd yn syrthio i'r categori hwn yn cael eu datblygu, eu harwain a'u gweithredu gan y Gr?p Gweithredu Lleol. Rôl y Gr?p Gweithredu Lleol "Bydd y Gr?p Datblygu Lleol yn dewis y prosiectau a gaiff eu hariannu gan y Strategaeth Ddatblygu Leol. Gallant hefyd ddewis prosiectau cydweithredol. Rhaid i'r prosiectau adlewyrchu anghenion yr ardal a rhaid eu gweithredu gan ddefnyddio dull LEADER." Cwmpas a Chamau o dan Echel 4 "Byddant yn bellgyrhaeddol ac wedi eu hanelu tuag at yr economi gwledig ehangach yn cynnwys anghenion amlsector ar gyfer datblygu gwledig mewndarddol." Dylai'r camau fod : yn arloesol yn brosiectau peilot yn rhai o'r gwaelod i fyny yn gyfannol yn hyrwyddo ymrwymiad cymunedol ymysg trwch y boblogaeth "Yn yr ystyr ehangaf, bydd camau Echel 4 wedi eu canoli o gwmpas pum thema economaidd":-
Gweithrediadau allweddol y Grwp Gweithredu Lleol Drafft y Cynllun Datblygu Gwledig 5.4.7....rhoddir pwyslais ar entrepreneuriaeth, ychwanegu gwerth a gwella ansawdd cynnyrch lleol a gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol a diwylliannol. Bydd y camau yn ceisio darparu ar gyfer blaenoriaethau lleol mewn modd cydlynol a byddant yn ceisio gwella trefn lywodraethol leol a datblygu potensial trwy feithrin gallu a chynnal archwiliadau o'r anghenion. Bydd y camau allweddol yn cynnwys:
Mesurau i'w cyflawni yn Echel 4 Rhaid i brosiectau unigol yn Echel 4 fynd i'r afael ag un o'r Mesurau canlynol:-
Pa grwpiau a dargedir? 5.3.9 Y Cynllun Datblygu Gwledig Drafft: Yn unol ag Erthygl 62 (b) o Reoliad y Cyngor 1698/2005 rhoddir blaenoriaeth i wragedd a phobl ifanc. Yn ychwanegol, mae'r grwpiau targed canlynol, nad ydynt mewn unrhyw drefn o flaenoriaeth, yn arbennig o bwysig yng nghyswllt Cymru:
|
Pethau a Lawrlwythwyd:
Tudalennau Cysylltiedig:
|