|
Diwygio Strategaeth Gymunedol CeredigionPam ydym ni'n gwneud hyn? Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi dyletswydd ar Gynghorau i hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu cymunedau lleol a chyfrannu at eu cynaliadwyedd. Mae'n ofynnol i'r Cyngor Sir gynhyrchu Strategaeth Gymunedol ar gyfer Ceredigion. Dylid gwneud hyn law yn llaw â busnesau, cymunedau, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Pam diwygio'r Strategaeth? Cyhoeddwyd y Strategaeth Gymunedol gyntaf ar gyfer Ceredigion ym mis Gorffennaf 2005. Ers hynny, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dangos ymrwymiad clir i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi gwerthuso'r holl strategaethau Cymunedol ledled Cymru ac o ganlyniad mae wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer Strategaethau Cymunedol. Beth yw'r Strategaeth Gymunedol? Y Strategaeth Gymunedol yw'r strategaeth drosfwaol ar gyfer Ceredigion. Rhaid iddi ddarparu gweledigaeth strategol hirdymor, yn seiliedig ar uchelgeisiau a rennir. Dylai'r rhain gael eu trafod a'u negodi gyda dinasyddion lleol, cymunedau a'u harweinwyr. Mae gan awdurdodau lleol swyddogaeth fel arweinwyr cymunedol, ond dylai'r strategaeth berthyn i'r gymuned. Dylai'r awdurdod lleol ei pharatoi a'i gweithredu ar y cyd gyda'i bartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Sut gaiff y Strategaeth Gymunedol ei pharatoi? 1. Ymgysylltu â'r Gymuned: 2. Tystiolaeth o'r Anghenion: 3. Paratoi'r Strategaeth Gymunedol Ddrafft: 4. Ymgynghori ynghylch y Strategaeth Gymunedol ddrafft: 5. Cymeradwyo a chyhoeddi 6. Cyflenwi Themâu'r Strategaeth Gymunedol Bydd strwythur y Strategaeth Gymunedol wedi ei seilio ar chwe phrif thema:
Bydd yr ymgysylltiad cymunedol wedi ei seilio ar y chwe thema uchod. Bydd y themâu hyn yn ystyried ac yn cynnwys gweithio partneriaeth a chynlluniau statudol eraill e.e. y Cynllun Plant a Phobl Ifanc, Cynllun Gofodol Cymru, Partneriaethau Cymunedau Yn Gyntaf, Diogelwch Cymunedol a'r Cynllun Datblygu Lleol.
|
|